Taith drwy Hen bentref Llithfaen.
Croeso!
Dewch gyda ni am dro trwy strydoedd y cof, wrth i ni geisio dod â Llithfaen ddoe yn fyw i chi heddiw! Roedd Nant Gwrtheyrn a Llithfaen yn bentrefannau yn nhrefgordd Trefgoed. Cofnodir y ddau ym 1281 yng nghyswllt tir a roddwyd gan y Tywysog, Llywelyn ap Gruffydd, yn y pentrefannau hynny. Gellir bwrw amcan o leoliad pentrefan canoloesol Llithfaen, nid yn gymaint ar sail y pentref ochr ffordd, ond ar sail daliadau hŷn Llithfaen, sef Llithfaen Fawr, Llithfaen Isaf a Llithfaen Uchaf. Tir pori oedd yr ardal yn y cyfnod hwn. Erbyn y 1840au roedd pentref wedi dechrau tyfu ar ochr y ffordd yn bennaf, â rhywfaint o ehangu bob ochr iddi ac, yn fwyaf arbennig, ar y lleiniau a neilltuwyd gan y Ddeddf Cau Tiroedd 1801. Erbyn 1890 roedd tua 90 o dai yn Llithfaen, ynghyd â thafarn, tri chapel ac eglwys Anglicanaidd. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif roedd tua 140 o dai yno. Y chwareli ithfaen oedd y prif reswm dros ddatblygiad Llithfaen yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Roedd rhai o’r chwareli yn fach iawn, ond roedd eraill yn fawr ac yn llwyddiannus, yn enwedig o ganol y 19eg ganrif ymlaen, pan ddaeth y chwareli lleol at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y Gwylwyr, Moel Ty Gwyn ym Mhistyll, Carreg y Llam, Porth y Nant a Chwarel yr Eifl oedd y chwareli mwyaf. Datblygodd cymunedau o’u cwmpas, gyda thai a barics i’r gweithwyr, a chrëwyd cymeriad diwydiannol a thirwedd greithiog ar hyd yr arfordir o Drefor i Nefyn.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r daith i ddysgu am ein pentref...