Faenol – Cigydd
Wheldon Williams, y cigydd
Yn 1891, James Davies, y gweinidog oedd yn byw yno a John Williams dreifar cerbyd yn y Faenol drws nesaf fyddai yn mynd â phobl i Bwllheli efo ceffyl a throl. Roedd siop bwtsiar Wheldon yn y Faenol. Byddai ganddo ladd-dy yn Llithfaen Uchaf a byddai Dic ‘Rabar yn helpu pan fyddai yn ddiwrnod lladd. Drws nesaf byddai Dafydd Williams yn dod i’r Faenol bob dydd Iau i gofrestru genedigaethau a phriodasau.
Roedd siop gigydd Wheldon Williams yn Rhif 1, y Faenol (y tŷ agosaf at Nefyn). Mae Aled Williams, Gorslwyd a Dafydd Roberts, Tan yr Hafod yn cofio y byddai Wheldon cael yr anifeiliaid o Llithfaen Uchaf, lle’r oedd lladddy a byddai Richard Jones, Abergarfan yn rhoi help llaw i Wheldon ar ddiwrnod lladd. Yn ôl Beti ??, chwaer Lena Pritchard, byddai Dafydd Williams yn dod i adeilad y drws nesaf i’r Faenol, o Bwllheli bod dydd Iau i gofrestru genedigaethau a phriodasau. Roedd y siop gigydd yno yn yr 1940au. Mae Dewi Williams, Brynmor yn cofio John, y Faenol yn byw yn Rhif 2, ac yn cario pobl i Bwllheli mewn coetsh fawr a cheffyl.