Y Syrjeri
Roedd syrjeri Llithfaen yn y cwt sinc hwn am flynyddoedd. Cynhaliai Dr Kiff ei syrjeri yma. Doedd gan neb gyfrinachau yn Llithfaen. Roedd y waliau mor denau fe fyddai’n bosibl clywed y trafodaethau i gyd o’r siop chips drws nesaf neu o’r ystafell aros!
