Siop Moss
Roedd siop Moss dros y ffordd â Llys Ifan. Yn y 1930au, byddai crydd yn dod yno, er nad oedd yn dod bob dydd, o gyffiniau Clynnog i weithio. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pandy yn y cyffiniau hyn rhwng Abergafran ac elusendai Tanyffordd. Roedd John Jones y gof yn gweithio o Abergafran rhwng 1891 a 1911, ac yn y bwthyn yma y cychwynnodd yr achos Methodistaidd yn y plwyf. Pan gychwynnodd yr ysgol Sul arferai Morris Jones, yr Aber, gadw’r plant mewn trefn gyda’i ffon.