Garage Gwyn
Prynodd Israel Mathew James Williams y bws cyntaf (Ford) yn 1920 o Borthmadog. Dyma ddechrau bysus Matt. Yn ddiweddarach trosglwyddodd y busnes i’w nai, Mathew Williams (tad Gwyn Williams, Delfryn, perchennog olaf y bysus). Cariai nwyddau yn ôl a blaen i chwarel Cae’r Nant yn ystod yr wythnos. Rhedai y bysus yn ddyddiol i Bwllheli. Roedd Griffith Richard Williams (taid bysus) yn gonductor ar y bysus am flynyddoedd. Roedd Red Garage hefyd yn gwerthu paraffin, petrol a thrwsio ceir.


Prynodd Israel Mathew James Williams (M.J.) ei fws cyntaf yn 1920 gan Charles Hughes, Porthmadog. Arferai gario nwyddau o’i siop i lawr i’r nant gyda cheffyl a sled. Sled Tŷ Uchaf, Nant oedd hon i gychwyn, ac yna defnyddwyd sled Tŷ Canol, Nant. Dyma sut y bu i gwnmi bysus Matt gychwyn. Bu’n Israel Mathew James Williams yn glerc i’r cyngor plwyf am flynyddoedd. (Addasiad o gofnod yr arddangosfa).


