Gwen y Wawr
Adeiladwyd Gwen y Wawr gan Eleazar Parry tua 1929 a chynllunwyd ef gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis. Mae Clough Williams-Ellis wedi gadael gwaddol arbennig o adeiladau unigryw yn yr ardal, yr enwocaf ohonynt efallai yw pentref Eidalaidd Portmeirion. Mae’r tŷ’n adeilad unigryw yn wynebu’r de a gellir gweld golygfeydd ysblennydd o fae Ceredigion. Bu Ian Brown o’r grŵp ‘Stone Roses’ yn byw yma am gyfnod.