Llys Mair – siop/caffi
Mary Jones (Anti Mair) a’i gŵr Evan oedd perchennog Llys Mair. Hi oedd merch Tŷ Uchaf, Nant Gwrtheyrn. Roedd yn gwerthu nwyddau sylfaenol fel menyn, llefrith, siwgr a bara ac yn cadw caffi bychan. Roedd ganddi arwydd ‘Teas with Hovis’ yn yr ardd. Un diwrnod daeth cwsmer heibio a gofyn am frechdan Hovis ond nid oedd torth Hovis yno y diwrnod hwnnw yn digwydd bod. Aeth y cwsmer ymaith a chwyno amdani i gwmni Hovis – roedd yn gweithio i’r cwmni!!

