Gweithdy saer
Hen dŷ bach un llawr oedd Isallt (gweithdy John Jones saer) ac adeiladwyd Isgoed ar ei dalcen. Gwnai’r saer waith i’r amaethwyr ac ambell arch. Un tro aeth a’r gwas gydag ef i fferm rhyw filltir o’r pentref, a chan fod y saer yn un pur ddireidus gofynnodd i’r gwas, wrth baratoi’r corff ar gyfer yr arch, a fyddai’n gallu pwyso cymaint ag y medrai ar bengliniau’r ymadawedig. Ufuddhaodd y gwas nes codi’r corff ar ei eistedd. Rhedodd y gwas yn holl ffordd adref, a bu’n ddi-hwyl am ddyddiau.
Cofia Dewi Williams, Brynmor hen dŷ bach un llawr ac Isgoed wedi ei adeiladu ar ei dalcen. Mae Aled Williams, Gorslwyd yn cofio pentwr o gerrig wrth ymyl garej Matt, ac mai hwnnw oedd y gweithdy. Dywed Adam Hughes bod y gweithdy wrth ymyl lle mae Isgoed heddiw.
Tynnwyd y llun hwn tua 1910, yn dangos bwthyn Elin Jones Cae Garw a gweithdy John Jones, Saer drws nesaf gyferbyn â’r capel.
John Jones, y saer oedd tad Arifog, ac roedd Ellen Evans yn credu mae efallai mai’r John Jones yma oedd o dan sylw. Roedd Arifog yn athro ysgol Sul arni ac fe’i dewiswyd yn ysgrifennydd yr eglwys cyn dod yn flaenor gan mai peth anghyffredin iawn oedd cael dyn yn medru ysgrifennu a rhifo, a bu wrth y gwaith am hanner can mlynedd. Roedd John Jones yn gwneud llawer o waith i’r amaethwyr ac ambell arch. Un tro aeth y saer a’r gwas gydag ef i fferm rhyw filltir o’r pentref, a chan fod y saer yn un pur ddireidus gofynnodd i’r gwas, ar ôl cyrraedd a hwylio’r ar gyfer yr arch, a fyddai’n pwyso cymaint ag y medrai fedrai ar bennau gliniau’r ymadawedig. Ufuddhaodd y gwas nes i’r corff godi’r corff ar ei eistedd. Rhedodd y gwas yn holl ffordd adref, a bu’n ddi-hwyl am ddyddiau. Dyma atgof Ellen Evans, Alpha ond nid yw’n enwi’r saer.