Cwt Bylym
Roedd atal deud go ddrwg ar William Crydd. Cofia rhai droi i mewn i glydwch y cwt (dros y ffordd i’r hen stôr) ar ddiwrnod gwlyb. Byddai hogiau’r pentref yn mynd yno i ddysgu smocio a chwarae brag pontoon am bres. Roedd y crydd ar ddechrau’r 20fed ganrif yn dipyn o fardd ac yn adroddwr ac roedd y cwt yn ganolfan diwylliant i’r pentrefwyr adeg honno hefyd a byddai holl bynciau’r dydd yn cael eu trafod yno.