Cae’r Mynydd
Roedd swyddogion y stadau a'r gyfraith a'r mesurwyr tir yn dod i Llithfaen fel nifer o ardaloedd
mynyddig eraill yn yr ardal i arolygu'r tir comin yn sgil y gyfres o Ddeddfau cau Tir. Roedd nifer o
dai unnos a sgwatwyr yn byw ar y mynydd o dan hen draddodiad gwlad gan fyw ar hawl pori a
hel tanwydd ar y tir comin gan gadw ambell ŵydd, mochyn, gafr, buwch ac ychydig o ieir - ac
Pennawd Llun Cwrt Caernarfon - Hanes Robert William Hughes yn y cwrt yng Nhaernarfon yn cael ei ddeddfredu i’w anfon i Port Macquarie, Awstralia
un o'r tai hynny oedd Cae'r Mynydd. Roedd Llithfaen yn lle tlawd iawn yn y cyfnod yma ac yn ôl
Eben Fardd “yr oedd yr hen Lithfaen yn cynnwys oddeutu dwsin o dai to gwellt yn adfeilion,
oddiethr tri neu bedwar. Yr oedd tŷ bonheddwr a adeilasid yma gan un Jones yn bur adfeiliedig.
Yr oedd y ffordd am tua tair milltir tu draw i Lithfaen yn un bur anniddorol, yn myned drwy’r
grug a thir noeth ac anial, nes dyfod at efail unig a throad at Bistyll”. Roedd nifer o’r merched
a’r plant yn mynd i’r mynydd i dynnu grug a’i gario yn feichiau i’r trefi ac yn gwneud bywoliaeth
o’i werthu fel tanwydd. Roeddynt hefyd yn torri tywyrch o’r mynydd i grasu bara.
Gan ddefnyddio cragen, galwai Robert William Hughes, Cae'r Mynydd ar drigolion Llithfaen i
ddod ynghyd i wrthwynebu'r swyddogion a'r mesurwyr tir ym 1812. Ymgasglai tua pedwar
Pennawd Llun General Hewitt – Darlun o’r llong General Hewitt a aeth a Robert William Hughes i Awstralia.
ugain o’r trigolion ar y mynydd a thaflu cawodydd o gerrig at y swyddogion. Daeth yr
awdurdodau i ystyried Robert Hughes, dyn y gragen, fel 'Captain of the mob'. Daeth y Dragoons,
yn eu cotiau cochion, i ddarllen y Ddeddf Terfysg ar y groes yn Llithfaen. Daliwyd Robert
Hughes, yn ôl traddodiad gwerin, yn cuddio mewn car bara oedd yn crogi o'r nenbren.
Dedfrydwyd ef yn y llys yng Nghaernarfon i gael ei grogi, ond oherwydd ymyrraeth gŵr
bonheddig o Lŷn, arbedwyd ei fywyd a chafodd bardwn ym Mehefin 1813 ond ei gosb oedd ei
alltudio i Botany Bay, Awstralia am weddill ei oes. Aed ag ef ar y General Hewett ym mis Awst
(bu 34 person farw ar y ffordd i Awstralia) a chyrhaeddodd Sydney ym mis Chwefror 1814 yn ei
Map o Awstralia yn dangos lleoliad Port Macquarie yn Awstralia
ddisgrifio fel ‘life labourer’ ac yn hen iawn a musgrell (very old and feeble). Aethpwyd ag ef, yn
ddyn gwael i ysbyty Booty Hill yn Port Macquarie. Yn amlwg bu fyw i oroesi y daith hir a gwelwn
gofnod iddo gael ei gladdu bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach gan y Reverend Cross yn
eglwys Port Macquarie yn 70 oed.