Nant Gwrtheyrn

Taith

Ddeng mil o flynyddoedd yn ôl oedd diwedd Oes yr Iâ ddiwethaf, wedi cyfnod o tua 90,000 o flynyddoedd, roedd y cwm hwn wedi ei lenwi â rhew. Mae wedi’i ffurfio wrth i dir meddal gael
TaithNant o'r gongl uchaf
ei dynnu ymaith, gan adael y gwenithfaen a’r manganîs caled ar ei ôl i ffurfio siâp y cwm. Mae’r gwenithfaen wedi bod yn fara ymenyn i drigolion yr ardal ers bron ddau gant o flynyddoedd. Os ewch chi i lawr y ffordd am Nant Gwrtheyrn, fe welwch y Graig Ddu yn wynebu’r môr. Mae llawer o fanganîs yn y Graig Ddu, ac yn anterth cyfnod y llongau, byddai capteiniaid profiadol yn gorfod bod yn ofalus wrth basio’r cwm gan bod y manganîs yn y graig yn amharu ar gwmpawdau’r llongau, a byddai’r graig ei hun yn ymddwyn fel magned. Dan gysgod y Graig Ddu mae hen bentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn.

Roedd Gwrtheyrn yn frenin Brythonig oedd yn byw yn y bumed ganrif. Nid oes sicrwydd a yw’n gymeriad hanesyddol ai peidio. Yn ôl traddodiad dywedir mai ef oedd yn gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynysoedd Prydain. Yn ôl Nennius, gwahoddodd Hengist y Brenin Gwrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddiannu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, a oedd wedi gwirioni ar ferch Hengist, Ronwen. Manteisiodd Hengist ar hynny, a gofynnodd i bawb ddod i’r wledd heb arfau. Ar orchymyn Hengist, yn ystod y wledd, tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd am yn ail â'r Brythoniaid wrth y
TaithY tai cyn eu hadnewyddu
byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Ni fu dewis gan y Brenin Gwrtheyrn ond ildio ei hawl ar dde Prydain i'r Sacsoniaid a ffoi, ynghyd â gweddill ei bobl i gornel ddiarffordd yng Nghymru.

Yn y ddeunawfed ganrif, dywed Thomas Pennant yn ei lyfr ‘Tours of Wales’ mae tair fferm oedd yn y cwm, ac mae adfeilion y tair i’w gweld hyd heddiw sef Tŷ Hen, Tŷ Canol a Tŷ Uchaf. Yn Tŷ Uchaf, trigai Rhys Maredudd a oedd am briodi Meinir. Ar ddiwrnod y briodas aeth Meinir i guddio, fel oedd yn arferol y dyddiau hynny. Methodd Rhys a’i ffrindiau a dod o hyd iddi. Beth amser yn ddiweddarach, a Rhys wedi gwallgofi ar ôl colli Meinir ac yntau yn ewyllysio ei gweld
TaithYr hen gapel
unwaith eto cyn marw, eisteddodd ar y llethr wrth hen goeden. Roedd hi’n stormus, ac fe holltodd mellten y geubren yn ei hanner. Yn y goeden, roedd sgerbwd Meinir yn ei gwisg briodas. Roedd wedi cuddio yn y goeden ac wedi methu â dod allan. Dywed rhai i Rhys farw o dor-calon yn fuan wedyn. Dywed eraill i fellten arall ei daro a’i ladd yn y fan a’r lle.

Tua chan mlynedd yn ôl, roedd brenin yn y Nant wedi ei ddewis gan y trigolion eu hunain ac ato ef yr ai pawb am gyngor.

O dro i dro. gwelir geifr gwyllt yr Eifl ar y llethrau a’r frân bicoch yn hedfan yn swnllyd uwchben. Mae’r fran bigcoch wedi ei mabwysiadu fel logo ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae’r geifr gwyllt wedi crwydro’r ardal ers Oes yr Iâ diwethaf ac yn rhan annatod o’n hanes ers hynny.