Gweithdai Celf

Cynhaliwyd gweithdy celf dan nawdd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (Llŷn) a chronfa Degwm Pistyll.



Gweithdy 1

Cynhaliwyd y gweithdy dros dri diwrnod yn ystod gwyliau’r Sulgwyn eleni a gwahoddwyd Catrin Williams i weithio efo’r plant.


Cafwyd hwyl garw yn edrych ar batrymau yn y capel, hel atgofion am yr ysgol Sul a chasglu geiriau arwyddocaol o’r ardal. Cafwyd sesiynau yn braslunio yn yr awyr agored ac roedd pawb wrth eu bodd yn mwynhau eu bocsys bwyd yn y cae chwarae. Roedd Catrin hyd yn oed yn manteisio ar y llechi oedd wedi dod oddiar yr hen do wrth i TIR ei atgyweirio er mwyn creu lluniau i’w trysori.


Ar ddiwedd y sesiynau roedd y plant wedi cynhyrchu paneli oedd yn dangos eu dehongliad nhw o hanes a phensaerniaeth y capel.


catrin

Cafwyd hwyl garw yn edrych ar batrymau yn y capel, hel atgofion am yr ysgol Sul a chasglu geiriau arwyddocaol o’r ardal. Cafwyd sesiynau yn braslunio yn yr awyr agored ac roedd pawb wrth eu bodd yn mwynhau eu bocsys bwyd yn y cae chwarae. Roedd Catrin hyd yn oed yn manteisio ar y llechi oedd wedi dod oddiar yr hen do wrth i TIR ei atgyweirio er mwyn creu lluniau i’w trysori.





Gweithdy 2

CianTractor

Yn sgil llwyddiant gweithdy Catrin Williams cynhaliwyd gweithdy celf yng nghwmni Cian Owen fis Gorffennaf. Daeth criw da at ei gilydd a gallech glywed pin yn disgyn wrth i’r plant (a’r oedolion erbyn hyn) ganolbwyntio ar wneud lluniau o’u cartrefi ac ychwanegu y dynion bach pric sydd yn nodweddiadol o waith Cian.


Cianphoto



Gweithdai Celf hefo Catrin - Haf 2022




Gweithdy Llifo crysau - Haf 2022



Plethu Helyg - Gweithdy Tachwedd 2022.

Cynhaliwyd gweithdy celf efo Eirian Muse yn festri Capel Isa’ ddydd Iau, 3 Tachwedd. Mae Eirian yn plethu helyg i wneud addurniadau a basgedi ac aeth pawb ag addurn Nadolig adref. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn.



Gweithdy Gardd Basg - Pasg 2023

Daeth criw o blant at ei gilydd i gael ychydig o hanes Y Pasg a chreu gardd. Bu pawb wrthi’n ddiwyd iawn. Gobeithio fod y blodau’n dal i dyfu!



Gweithdy creu modelau Papier Mache gyda Carys Bryn - Mai 2023

Daeth criw i’r festri yn ystod gwyliau hanner tymor i weithio gyda Caryds Bryn i wneud modelau ar gyfer croesawu’r Eisteddfod i’r fro. Bu pawb yn brysur iawn yn gweithio mewn grwpiau ond er bod dipyn o lanast wedi ei greu gyda’r past papur, roedd y canlyniadau yn drawiadol.


aonb