Ynysoedd Tudwal
Edrychwch i'r dde, tua'r môr, gwelwch Ynysoedd Tudwal – grŵp o ddwy ynys i'r de o Abersoch
sy'n cael eu galw yn Ynys Tudwal Fawr (gorllewin) ac Ynys Tudwal Fach (dwyrain). Prynwyd Ynys
Y llong Ann - Fflat Huw Puw
Tudwal Fawr gan y anturiwr Bear Grylls yn 2009. Mae'r ynys fawr yn gartref i'r oleufan.
Adeiladwyd yr oleufan yn 1877 ac fe'i gwnaed yn oleufan di-griw yn 1935. Roedd Ynys Tudwal
Fach yn eiddo i'r awdur Romana Barrack (Carla Lane), cyd-awdur The Liver Birds (1969-79)
awdur Butterflies (1978-83) a Bread (1986-91) tan ei marwolaeth yn 2016. Prynwyd yr ynys
ganddi yn 1991 er mwyn diogelu bywyd gwyllt.

Brython oedd Tudwal a ymfudodd i Lydaw yn y chweched ganrif a chael ei gysegru yn esgob yno. Yng nghyfnod Tudwal, roedd y môr o gryn bwys wrth iddyn nhw symud o ynys i ynys ac o benrhyn i benrhyn fel mannau i encilio iddynt.
Roedd Henry Bailey Maria Hughes wedi ei fagu yn Rhoscolyn ac mae'n cael ei gofio fel bachgen difrifol a duwiol, ei wallt yn wyn o'i blentyndod, ei olwg yn fyr, ac yn aml yn crwydro'r caeau mewn gweddi. Derbyniwyd ef i'r ffydd Gatholig, gallai bregethu mewn llawer iaith, roedd yn gyfieithydd i gyngor y Fatican yn Rhufain a chrwydrodd i ledaenu'r gair am ei ffydd drwy Affrica, Portiwgal, Canada ac America cyn dod i'r ynysoedd a sefydlu ar yr ynys. Ef oedd yr olaf i fod ar yr ynys i geisio parhau â'r gwaith a gychwynnodd Sant Tudwal fil o flynyddoedd cyn hynny. Cafodd nifer i ddod yno i'w gynorthwyo ond methiant fu'r holl ymdrechion. Aeth eu cwch i ollwng dŵr ac nid oedd ond tair a dimai yn y casgliad. Ar ben hynny chwalwyd ei fynachlog ar yr ynys ar nos Gŵyl yr Holl Saint ychydig cyn y Nadolig 1887.
Lle garw sydd yma ar storm, ac yn y culfor hwn yma yr aeth fflat Huw Puw i drwbl a malu'n
ddarnau mân. Roedd Hugh Pugh yn hanu o Lerpwl ac yn gapten a chydberchennog ar y fflat
bren Ann. Adeiladwyd Ann yn Frodsham yn 1799. Fflat yw enw cwch ar gyfer dŵr bas a hwyliau
Ann yr afon Merswy, Afon Dyfrdwy ac Afon Conwy. Rhan fwyaf o'r amser roedd yn gweithio
rhwng Caernarfon, y Felinheli (Porthdinorwig) Lerpwl a Runcorn yn cario glo, coed neu lechi.
Cwch 60 tunnell oedd hi efo un mast a 3 aelod yn y criw. Roedd yn hwylio efo llwyth o goed o
Porthaethwy i'r Bermo pan gododd storm yn St. Tudwal's Road ar 18 Hydref 1858, ac fe'i
drylliwyd gan achub y criw. Roedd ei wraig ar y Fflat yn ôl y stori, ac ystyrid hynny yn anlwcus.
Awyrlun o Ynysoedd Tudwal
Mae amryw o straeon difyr am Huw Puw yn ystod ei gyfnod ar y môr. Roedd yn gymeriad
ffraeth oedd yn mwynhau cymdeithasu, stori dda ac ambell i beint! Bu farw Huw Puw yn 1865
yn 70 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanidan.