Yr Eifl

Taith

Mae Penrhyn Llŷn yn ymestyn i’r gorllewin am ryw ddeng milltir ar hugain ac yma mae’r rhan fwyaf o dir gwastad yr ardal ehangach. Anfynych y gwelwn y tir yn codi yn uwch na 600 troedfedd (180m) Yma ac acw, cwyd bryniau serth o greigiau igneaidd eu pennau yn sydyn gan
TaithYr Eifl dan eira
dorri ar yr undonedd, megis Garn Boduan (127m), Mynydd Nefyn (255m), Garn Fadryn (371m), a’r Eifl. Mae gan fynyddoedd yr Eifl dri chopa. Mae'r uchaf, sef Garn Ganol yn y canol (564m) , y lleiaf, Garnfor (Mynydd Gwaith ar lafar) i'r gogledd ac agosaf at y môr (444m), a'r trydydd (485m) i'r de-ddwyrain, sef Mynydd y Ceiri. Ar y copa hwn, gellir gweld bryngaer nodedig iawn o Oes yr Haearn, sef Tre’r Ceiri. Mae tri phentref o gwmpas troed y copaon – Llithfaen, Trefor a Llanaelhaearn. Ar ddiwrnod braf mae’r golygfeydd yn odidog mor bell a mynyddoedd Wicklow, Ynys Manaw a Bae Ceredigion. Copa Garn Ganol yw’r copa uchaf yn Llŷn. Golyga enw yr Eifl ‘y ddwy fforch’. Gafl yw fforch, y rhif deuol yw geifl yn dynodi dwy afl, y ddau fwlch ar y mynydd rhwng y tri chopa. Gwenithfaen yw’r garreg sydd yn y mynyddoedd. Carreg igneaidd galed asidig yn cynnwys Quartz a Feldspar yw gwenithfaen (neu ithfaen). Cafodd ei chreu wrth i fagma sydd â swm uchel o Quartz, Feldspar a Mica oeri yn araf o dan y ddaear. Wrth i’r magma godi i’r wyneb mae’n dechrau oeri, ac os nad yw’n gallu cael lle i ddianc, mae’n caledu fel craig. Pan fydd y magma mewn siambr fawr tanddaearol, gall gymryd miliynau o flynyddoedd i galedu. Mae’r ffaith ei bod yn oeri yn araf yn ei gwneud yn garreg galed iawn ac mae’r nodwedd yma wedi ei gwneud yn carreg boblogaidd ar gyfer adeiladu drwy
TaithMynyddoedd Yr Eifl o Ynys Llanddwyn
hanes dyn. Ithfaen llwyd yr olwg yw’r ithfaen sydd ym mynyddoedd yr Eifl ond ceir gwahaniaeth lliwiau ar draws y byd – weithiau yn binc ac weithiau yn ddu. Cerflunydd Cymreig oedd yn arbenigo mewn gweithio mewn gwenithfaen oedd  Robert Lambert Gapper neu R. L. Gapper  a aned yn 1897 ym mhentref Llanaehaearn. Roedd hefyd yn hoffi gweithio mewn llechen, efydd a phren. Lluniodd lawer o gofebau, cerrig beddau, penddelwau a dodrefn eglwysig a hynny gyda defnyddiau lleol. Caiff ei ystyried yn un o brif gerflunwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Mewn caffi o’r enw Maes Gwyn ar y maes ym Mhwllheli, sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru
TaithLogo Plaid Cymru yn dangos y triban.
yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1925. Yn 1933, dyfeisiodd arlunydd o’r enw Richard Huws, logo i Blaid Cenedlaethol Cymru, sef y ‘Triban’, ar ffurf tri thriongl gwyrdd i gynrychioli cadernid y mynyddoedd. O gyfeiriad Clynnog gwelir tri chopa’r Eifl yn glir, a dywedir mai dyma’r symbyliad ar gyfer llunio triban fel logo i Blaid Cymru tan ymgyrch etholiadol 2007, lle mabwysiadwyd y pabi melyn, neu’r pabi Cymreig yn logo newydd Plaid.