Aros Ennyd

Taith

O edrych yn ofalus gallwch weld olion cwt yn ymyl y wal gerrig. Dyma olion cwt Aidan neu ‘Aros Ennyd’. Mae’r waliau wedi gosod ar siâp T er mwyn cael cysgod rhag bob gwynt. Gweithiai Edward Aidan Davies yn y gwaith mawr a theithiai o’i gartref yn Llithfaen, ar hyd Lȏn Gwaith ac i lawr i’r chwarel. Gellir dychmygu fod y daith yn un pur annifyr mewn tywydd garw, ac felly, roedd Aros Ennyd yn fan cysurus i droi i mewn iddo am hoe fach, cyn wynebu gweddill y daith. Roedd Edward Aidan Davies yn byw yn Tŷ Croes, Llithfaen a ganwyd ef yn 1871. Priododd Catherine ac roedd ganddynt ddau fab, Elwy ac Eifion. Roedd yn setsiwr yn y chwarel. Fel rheol, eistedd y byddai’r mwyafrif o setsmyn ar glustog wedi ei osod ar flocyn carreg, a blocyn arall o bren solat o’i flaen fel y medrai osod setsan arno i’w throi a’i thrin yn ôl y galw. Byddent yn defnyddio morthwyl patro, a daw’r gair patro o’r Saesneg patter – sef taro’n aml, fel cenllysg bron. Hwn oedd yn symud gyflymaf o’r holl forthwylion. Byddai’r setsiwr mwyaf crefftus yn partro ar ei draed, mae’r dull hwn yn llawer caletach ar y corff. Byddai’r person yn sefyll dros y garreg, ac yn plygu i lawr i batro. Byddai setsiwr ar ei draed yn cynhyrchu mwy o sets na’r un ar ei eistedd. Roedd ei forthwyl yn pwyso mwy o rhyw ddeubwys – saith pwys o’i gymharu â phum pwys. Ar ben hynny, roedd coes ei forthwyl hefyd yn hirach. Ond beth am y traul ar flaenau’r esgid, wrth iddo droi’r setsan efo’i droed trwy’r dydd? Yr ateb oedd ‘Clem Fawr’, sef clem ddur fawr dros drwyn yr esgid lle roedd yn troi’r setsan, ac ni fyddai oes honno yn hir i weithiwr da chwaith.

Roedd Edward Aidan Davies yn weithgar yn y capel a’i gymuned. Dyma emyn o’i waith yn “Caniedydd yr Annibynnwyr”


Aidan Davies

Arglwydd, rho dy wen yn health,
Wrth ymadael o’r gwasanaeth;
Gad im ddychwel mewn llawenydd
Adref, gyda bendith newydd.


Os pechasom yn dy erbyn
Drwy I bethau’r byd ein dilyn,
Maddau inni ein crwydriadau,
A sancteiddia ein serchiadau.


Arwain ni I’n cartrefleoedd
Arwain o dan wlith y nefoedd;
Sŵn awelon pen Calfaria
Fyddo’n aros wedi’r oedfa.


oedd yn fardd gwlad, a byddai’n dod yn fuddugol mewn Eisteddfodau lleol ar gystadlaethau fel penillion coffa, enillodd lawer gwaith ar y gystadlaethau cyfansoddi geiriau emyn. Byddai’n ysgrifennu penillion i nodi ambell ddigwyddiad. Yn 1905, daeth yn fuddugol am ysgrifennu pryddest “Yr Iesu’n golchi traed y disgyblion”. Byddai cryn adrodd ar ei waith mewn eisteddfodau’r Cymru oddi cartref yn ninasoedd Lloegr. Ceir un enghraifft yn Manceinion.