Porthdinllaen a’r ffordd dyrpeg
Draw ar hyd yr arfordir i’r de orllewin o Dre’r Ceiri gwelir penrhyn hirfain yn ymestyn allan i’r môr. Dyma Drwyn Porthdinllaen, lle mae olion amddiffynfa hen gaer o Oes yr Haearn. Amddiffynfa neu gaer yw ystyr Din, sy’n golygu mai Dinllaen fyddai enw hynafol y gaer a oedd ar y trwyn.
Porthdinllaen o Bistyll
Dyna’r enw a roddwyd wedyn ar y cwmwd yr oedd y gaer ynddi, un o’r tri chwmwd a ffurfiai gantref Llŷn. Roedd cwmwd a chantref yn hen unedau gweinyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Mae’r elfen ‘llaen’ sydd yn yr enw, yn ogystal a’r enw ‘Llŷn’ ei hun, yn dod o’r un gwreiddyn â’r enw lle Gwyddelig Laighin (Leinster), hen deyrnas yn ne-ddwyrain Iwerddon. Mae hyn yn awgrymu cyswllt agos rhwng Llŷn ac Iwerddon mewn cyfnod pan oedd teithio llwybrau’r moroedd yn llawer haws na theithio ar draws gwlad.
Yng nghysgod Trwyn Porthdinllaen gwelir y borth ei hun. Dros y canrifoedd gwelwyd mwy nag un ymdrech i sefydlu Porthdinllaen fel prif harbwr y llongau post ar gyfer Dulyn, yn lle Caergybi. Bu’r amlycaf ohonynt yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dilyn Deddf Uno Prydain ac Iwerddon a ddaeth i rym ddechrau 1801, gydag Aelodau Seneddol Iwerddon yn gorfod teithio i’r Senedd yn Llundain.
Cerdyn post o Borthdinllaen 1908
Yn 1806 pasiwyd Deddf Seneddol yn sefydlu Cwmni Harbwr Porthdinllaen a dechreuwyd ar y gwaith o godi glanfa a gwesty ar gyfer teithwyr. Y Whitehall oedd yr enw a roddwyd ar y gwesty ond ni fu teithwyr erioed yn aros yno i ddisgwyl y llong ar gyfer Dulyn gan mai methiant fu’r cynllun yn y pen draw, a llwyddodd Caergybi i ddal gafael ar y drafnidiaeth o Gymru i Iwerddon.
Er hynny gwelir un ôl amlwg ar y dirwedd o hyd o’r bwriad a fu. Cyn pasio’r ddeddf i ddatblygu’r harbwr cafwyd deddf yn 1803 i greu ffordd well o Borth-dinllaen i gyfeiriad Capel Curig gan ymuno yno efo’r Lôn Bost i Lundain. Roedd nifer o dirfeddianwyr a phersoniaid Llŷn ac Eifionydd wedi dod ynghyd i sefydlu ymddiriedolaeth – Cwmni Tyrpeg Porthdinllaen – er mwyn gofyn am hawl y Senedd i greu’r ffordd newydd gan fuddsoddi cyfanswm o £4,760 yn y cynllun. Gosodwyd y gwaith o greu’r ffordd a chodi pontydd i wahanol griwiau o seiri maen trwy addasu rhai darnau o’r ffordd oedd yno eisoes a chreu rhai darnau hollol newydd ar draws gwlad, gan godi tyrpegau neu dollbyrth mewn gwahanol fannau arni er mwyn i deithwyr orfod talu toll am ei defnyddio.
Llongau ar draeth Porthdinllaen 1905
Yn wahanol i’r ffyrdd gwledig digon troellog a fodolai cynt, roedd y ffordd dyrpeg newydd i ddilyn llwybr mor syth â phosib. Gwelir y ffordd yn dod o gyfeiriad Porthdinllaen gan anelu’n syth am ardal Boduan, lle’r oedd tyrpeg. Yn y fan honno roedd y ffordd yn hollti yn ddwy, gydag un gangen yn mynd trwy dref Pwllheli a’r gangen arall yn mynd yn syth ar draws gwlad i gyfeiriad Penygroes Llanystumdwy. Yno gwelir bwthyn y tyrpeg o hyd lle’r y ffordd roedd yn ymuno unwaith eto â changen Pwllheli, cyn mynd ymlaen trwy Lanystumdwy, Cricieth a Thremadog. O Gerrig y Rhwydwr, tu draw i Dremadog, roedd ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol am y ffordd i fyny trwy Feddgelert a Nant Gwynant i Gapel Curig.
Map yn dangos lleoliad Porthdinllaen o lethrau’r Eifl
Daeth yr hawl i godi toll i ben ar Dachwedd 1, 1872 a thynnwyd y gatiau i lawr, ond go brin fod yr ymddiriedolwyr wedi gwneud fawr dim elw o’u buddsoddiad.