Eglwys Carnguwch

Mae hon yn un o chwech eglwys yng Ngwynedd sydd wedi eu cysegru i Beuno, sant o’r seithfed ganrif. Mae’n debyg bod addoldy yma bryd hynny, ac mae’r ffaith bod y fynwent yn gron yn awgrymu hynny hefyd. Yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cofnodir bod adeilad yr eglwys ar ffurf croes ond mewn cyflwr difrifol. Fe’i hail-adeiladwyd yn 1828, ac ail-ddefnyddwyd ffenestr y dwyrain. Gyda datblygiad Llithfaen, codwyd eglwys newydd i’r plwyf yn y pentref hwnnw yn 1882 a chafodd Carnguwch ei chau.


Eglwys Carnguwch