Tai Capten

Roedd Capten Richard Griffith yn ddyn garw ac yn chwarelwr yng ngwaith Trefor. Un bore, penderfynodd fynd i’r môr gan adael ei focs bwyd ar y wal a cherdded am Borthmadog. Ar ôl ychydig daeth adref a byddai’n dysgu rhai o blant y pentref i nofio, gan eu gwthio oddi ar lanfa Wern, cyn neidio i mewn ar eu hôl er mwyn codi eu pennau uwchben y dŵr. Roedd yn gynilwr. Gyda’r cynilion llwyddodd i adeiladu rhes o dai newydd ym mhen draw’r pentref a sicrhau bod cyflenwad dŵr i’r holl dai.


Yr oedd Capten Richard Griffith yn byw ar gyrion y pentref yn Ty’n y Garreg. Dyn garw iawn oedd o ac yn chwarelwr yng ngwiath mawr Trefor. Un bore wrth fynd i’w waith penderfynodd fynd i’r môr felly fe adawodd ei dun bwyd ar waelod yr allt a dechreuodd gerdded am Porthmadog. Unwaith y cyrhaeddodd Porrthmadog aeth ar fwrdd llong hwyliau oedd yn hwylio i Gaerdydd.


Llwyddodd i basio ei arholiadau a dod yn gapten o gryn bwys. Roedd yn gynilwr aruthrol, nid oedd yn yfed na rhegi ac ymhen ychydig fe ddaeth adref ac yn ystod y cyfnod y bu adref dysgodd y capten rai o blant y pentref i nofio. Gwnai hyn trwy ei gwthio oddiar lanfa Wern a neidio i mewn ar eu holau i godi eu pennau uwchben y dwr. Gyda’r arian a gyniliwyd gan y capten fe lwyddodd i adeiladu rhes o dai newydd ym mhen draw y pentref a chyflenwad dŵr i’r holl dai. Yn ystod yr ail ryfel byd bu’r Japaneaid yn greulon wrth y capten. Fe ddioddefodd trwy ei roi mewn twll a’i gicio yn ei ben. Derbyniodd OBE am ddewrder ar y môr. Bu farw ym Mae Colwyn ac yno y mae ei fedd.