Y Stor

Symudodd y Co-op, neu’r Stôr, fel y’i gelwid hi, o Compton House i New Brighton. Talai ddifidend da i’w chwsmeriad sef hyn a hyn yn y bunt. Roedd cownter pren helaeth yn y siop a digon o le i arddangos nwyddau. Cyn hyn cedwid y siop gan John Jones oedd yn ŵr diwylliedig iawn. Yn y 1940au Miss Jones, merch John Jones, gadwai’r siop. Roedd ganddi deriar bach swnllyd yn neidio i ben y cownter. Roedd hi’n siop dywyll iawn a dim llawer o ddim yno yn y cyfnod hwn.


Y stor(Chwith i’r Dde) Nancy Williams a Lena Pritchard yn y Co-op
Y storStôr, neu Co-op Llithfaen, hen siop John Jones, Saer - tad Arifog.

Ffeithiau'r Cyfrifiad: