Cwt Wil Bryncelyn

Roedd cwt torri gwallt Wil Bryncelyn o dan goeden fawr dros y ffordd i garej Matt H Williams (Delfryn). Byddai hefyd yn mynd o gwmpas yn torri gwalltiau. Roedd yn gwt pren rhwng y ddau furddyn oedd wrth ymyl Isallt/Isgoed a’r garej.

Cofia Dewi Williams, Brynmor fod cwt torri gwallt Wil Bryncelyn o dan goeden fawr dros y ffordd â garej Matt H Williams. Roedd yn gwt pren rhwng y ddau furddyn wrth ymyl Isallt, Isgoed a’r garej. Cofia Glyn Roberts, Llithfaen Isaf, bod Wil Bryncelyn yn dod i’r beudy i dorri gwallt ei daid.