Copa Tre’r Ceiri

Taith

Yr hyn sydd yn arbennig am Dre’r Ceiri yw’r mur anferth o gerrig o amgylch y gaer, a’r ffaith fod y cytiau a’r adeiladau mewnol mewn cyflwr mor dda. O sefyll ar y copa ac edrych i lawr dros y gaer mae rhywun yn gallu gweld cynllun clir o’r cytiau oddi fewn iddi. Mae llwybrau cymharol dda yma (hynny yw, i gerddwyr abl), sef llwybrau defaid sy’n eich arwain mewn cylchdaith o amgylch y gaer.


TaithY garnedd ar ben Tre’r Ceiri

Mae’r cylchfur sylweddol sydd o amgylch Tre’r Ceiri wedi ei adeiladu o gerrig sychion ac o drwch rhwng 6 troedfedd a 15 troedfedd mewn rhai mannau, ac yn codi i uchder o 3 medr mewn rhannau o’r tu allan i’r gaer. Ar ben y mur roedd rhodfa, un debyg iawn i’r hyn a welir ar furiau cestyll canoloesol, felly roedd lle i ‘filwyr’ gerdded ar y mur ar gyfer cadw golwg neu amddiffyn.

Oddi fewn i’r mur mae oddeutu 150 o gytiau, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu clystyru mewn grwpiau amlwg. Y cytiau crynion yw lle byddai pobl yn byw, ac mae nifer wedi eu rhannu, efallai yn y cyfnod o ail ddefnydd diweddarach yn y cyfnod Rhufeinig. Yn sicr mae Dave
TaithSyniad arlunydd o Dre’r Ceiri
Hopewell (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd) wedi dangos fod rhai o’r rhaniadau yma wedi eu creu yn erbyn waliau cytiau oedd wedi hen ddisgyn, sydd eto’n awgrymu ailddefnydd ar ôl cyfnod segur yn hanes y gaer. Gweithdai a stordai fyddai’r cytiau hirsgwar neu betryal.


TaithEdrych i fyny ar y garneddd

Ar y copa ei hun mae carnedd o gerrig sydd yn dyddio o’r Oes Efydd, rhywbryd yn ystod yr ail fileniwm Cyn Crist, a’r tebygrwydd yw fod hon yn dynodi bedd rhywun. Mae carneddau tebyg i’w gweld ar safleoedd eraill, copa Mynydd Rhiw yn eu mysg, felly yr awgrym yw fod y mynyddoedd yma wedi bod yn safleoedd o bwys, ac efallai o bwysigrwydd ysbrydol i bobl ers canrifoedd cyn adeiladu’r bryngaerau. Cwestiwn da, wrth gwrs, ydi a oedd adeiladwyr y fryngaer yn ymwybodol o bwysigrwydd y garnedd − ond mae’r ffaith fod y garnedd wedi goroesi yn awgrymu fod trigolion Oes yr Haearn wedi ei pharchu, ac wedi ymatal rhag ailddefnyddio’r cerrig i adeiladu eu tai crynion.