Mentrau Cymdeithasol y pentref

Taith

Wrth ddychwelyd I bentref Llithfaen yr ydych yn ymwybodol bod y pentref, er yn fychan, yn gartref I 4 menter gymunedol heddiw sef, Menter yr Eifl, perchnogion adeilad Siop Pen-y-groes, Tafarn y Fic, Siop Pen y Groes a Hafod Ceiri. Mae’r mentrau yma yn adlewyrchu natur gymunedol y pentref ers dros gan mlynedd.

Wrth fynd yn ôl i ddiwedd saithdegau'r ddeunawfed ganrif cawn griw o weithwyr yng Ngwaith Mawr Llan’huar yn sefydlu'r Eifl Workers Co-operative Society ac yn agor siop i ddiwallu anghenion y gymdogaeth. Hon oedd yr ail siop Co-op i’w sefydlu drwy wledydd Prydain benbaladr. Roedd y nwyddau yn dod i mewn ar longau gwag oedd yn dod i nôl y cerrig o’r gwaith. Gyda’r nos oedd oriau agor y Stôr, gan fod y dynion oedd yn gweithio ynddi yn y chwarel trwy’r dydd. Caeodd y Stȏr ei drysau ym mis Hydref 1969.

Menter yr Eifl yw’r fenter sy’n berchen ar adeilad y siop. Erbyn 1996 roedd argyfwng yn Siop Pen-y groes a’r perchennog am werthu’r adeilad. Cafwyd ymateb anhygoel gan y pentrefwyr a naw o bob deg cartref yn cefnogi’r fenter i brynu’r adeilad. Ar y dechrau roedd y pwyllgor yn rhedeg y siop ond yn fuan cafwyd tenant i’w rhedeg. Ond cyhoeddodd y Post eu bod yn cau'r gangen yn Llithfaen. Caewyd y Post ar 14 Chwefror 2009. Doedd dim dewis ond ystyried gwerthu’r adeilad.

Cwmni Siop Pen-y-groes sydd yn denant i Menter yr Eifl ac yn rhedeg y siop. Roedd teimlad o ddiymadferthedd llwyr wrth feddwl bod siop olaf y pentref yn cau. Cafwyd cyfarfod anffurfiol a phenderfynwyd na ellid gadael i’r adeilad fynd heb ymdrech. Daeth atebion cadarnhaol i holiadur oedd wedi mynd i bob tŷ yn y pentref. Cynhaliwyd cyfarfod ffurfiol ar y degfed ar hugain o Orffennaf 2009 ac agorwyd y siop ar 13 Awst. Yn ystod yr 1980au daeth y dafarn o dan fygythiad y bragdy nad oedd yn rhagweld unrhyw ddyfodol iddi fel tafarn. Camodd y pentrefwyr i’r adwy eto i’w chadw yn agored. Yn lle bod yn dafarn denant, dan reolaeth y cyfarwyddwyr mae'r Fenter yn ei reoli erbyn hyn, gyda'r elw i gyd yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r gymuned.

Mae ‘Hafod Ceiri’ yn gwmni wedi ei sefydlu i ddatblygu Capel Isaf, Llithfaen yn Ganolfan aml bwrpas ar gyfer yr ardal. Eu bwriad yw creu adnodd cynaliadwy i wasanaethu ein cymuned, y llawr uchaf yn agored gan gadw holl nodweddion unigryw y galeri a’r côr. Ar lawr isaf y prif adeilad byddwn yn datblygu canolfan dreftadaeth, sinema fechan a chaffi yn wynebu’r olygfa odidog i’r de.