Tylwyth Teg

TaithTocyn Brwyn

Defnyddir yr enw Tylwyth Teg am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth a llên gwerin llawer gwlad, er enghraifft y banshee yn Iwerddon,
TaithLleoliad y tocyn brwyn
y brownies yn yr Alban, y fairies ac elves yn Lloegr, a'r fée yn Ffrainc. Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r Celtiaid.

Yn y rhan fwyaf o'r chwedlau gwerin Cymraeg, Gwyn ap Nudd yw eu brenin. Cysylltir hwy yn aml â llynnoedd; dywedid hefyd bod criafol yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi haearn. Ceir nifer o themâu yn y chwedlau hyn; un yw bod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu babanod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld â gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ac nad oes neb yn ei adnabod bellach. Mae ambell stori yn yr ardal yn adeiladu ar yr hen gredoau yma. Roedd Jane Rowlands oedd yn byw yn Nant Gwrtheyrn yn rhoi procer yn groes ar y tan i gadw’r diafol a’r tylwyth teg i ffwrdd gan bod tylwyth teg yn ofni haearn.


TaithTylwyth Teg

Roedd trigolion yr ardal yn ofergoelus ac yn sensitif i weithgareddau goruwchnaturiol. Pan oedd digwyddiad tu hwnt i ddeall priodolwyd ef yn amlach na pheidio i ymyrraeth gan y Tylwyth Teg. Roedd y Tylwyth teg yn siarad iaith ddieithr a gellid eu clywed yn siarad a’u gilydd o ddod ar eu traws yn ddiarwybod ond Cymraeg a siaradent gyda’r bobol leol. Ystyrid plentyn oedd yn llai na’r cyffredin yn blentyn i’r tylwyth teg. Roedd Elis Bach cymeriad oedd yn byw yn Nant Gwrtheyrn ac yn gorfod mynd i lawr y gamffordd serth i’r pentref wysg ei gefn gan bod ei goesau mor fyr yn cael ei ystyried fel plentyn wedi ei gyfnewid gan y tylwyth teg. Cofia Ellen Evans ei modryb yn dweud hanes hen wraig oedd yn fydwraig yn y pentref. Roedd yn ei chartref rhyw ddiwrnod a daeth gŵr bonheddig i'r drws a gofynnodd iddi fynd gydag ef. Roedd yn daer am iddi fynd felly aeth y wraig gydag ef yn ei sgil ar gefn ceffyl. Yn ôl ei stori hi cafodd ei hun mewn palas ac yno roedd plentyn yn cael ei eni. Ond, wedi i’r wraig dorri rhyw orchymyn, darganfu ei bod ar ben ei hun yn y tocyn brwyn yn ben Nant Gwrtheyrn heb olwg o’r palas, y babi na’r gŵr bonheddig. Doedd ganddi ddim cof o’r hyn oedd wedi digwydd iddi ar ôl iddi ddod adref.