Chwarel yr Eifl

TaithMynydd gwaith
TaithChwarel yr Eifl o'r Gogledd

Roedd tair chwarel ithfaen ar ochr orllewinol yr Eifl ac i'r rheiny yr âi'r chwarelwyr o Lithfaen a Nant Gwrtheyrn i weithio: Chwarel y Nant, Chwarel Cae'r Nant, Chwarel Carreg y Llam. I’r dde cyn troi am y llwybr gwelwch gopa Garnfor ag ȏl tyllu’r chwarel ar ei amlinell. Dyma frig Chwarel yr Eifl, neu’r gwaith mawr ar lafar.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu sets i balmentu strydoedd y dinasoedd. Roedd y setsan, neu’r giwban, yn mesur 10cm wrth 10cm. Anodd credu y gellid morthwylio cant a deugain o’r rhain mewn diwrnod, ond dyna record y crefftwr medrus. Roedd llawer o symud rhwng Penmaenmawr (ardal arall oedd yn cynhyrchu sets a’r Eifl. Roedd y chwarelwyr hefyd yn teithio i ogledd Lloegr, Cernyw a’r Alban i weithio.

Samuel Holland , un o arloeswyr chwareli llechi’r Gogledd oedd wedi darganfod ithfaen yn chwarel y Gwylwyr yn Nefyn a wedi gweld bod yr un garreg ym mynyddoedd yr Eifl. Yn y Gorllwyn y dechreuwyd gwneud sets tua 1836-40. Agorwyd y chwarel dan enw ‘The Welsh
TaithMaen coffa Llywelyn ein Llyw Olaf, Cilmeri
Granite Co. Ltd. yn 1850 a defnyddid ceffylau i dynnu’r wagenni erbyn 1865 ac erbyn 1870 roedd pier yn ei le ac erbyn 1873 injan stȇm oedd yn tynnu’r wagenni o’r chwarel i’r pier. Adeiladwyd pentref Trefor (nid Tre-fȏr gan ei fod ar yr arfordir ond Trefor ar ȏl Trefor Jones, rheolwr y chwarel ar y pryd) yn dilyn llwyddiant y chwarel.

Gan fod y graig o ansawdd neilltuol o dda at wneud sets a phalmantu heolydd, ac yn gallu gwrthsefyll trafnidiaeth drom, a hefyd yn cadw heb fynd yn llithrig o dan draed y ceffylau, yn wahanol i sets o rannau eraill o’r wlad, yr oedd marchnad dda i’r cerrig, ac o ganlyniad roedd y chwarel yn cynyddu a mwy o weithwyr yn dod i weithio iddi. Yn raddol agorwyd ponc ar ben
TaithSet
ponc yn gwneud cyfanswm o naw ponc i ben y mynydd a phob un tua 100 i 120 troedfedd o uchder. Yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif roedd tua 600 yn gweithio yn y gwaith. Erbyn 1930 roedd gwaith Mawr wedi cynhyrchu 1,157,000 tunnell o sets ac wedi datblygu i fod y chwarel ithfaen fwyaf yn y byd.

Wedi i’r gwaith ail ddechrau ar ôl yr ail ryfel byd adeiladwyd ‘crusher’ i falu’r cerrig yn fanach gan bod tarmac a ‘chippings’ wedi cymryd lle y sets i’w rhoi ar yr heolydd. Dechreuwyd hefyd wneud cerrig beddau a chofgolofnau, rollers i wneud papur, a cherrig cyrlio ond dim ond rhyw 50 oedd yn gweithio yn y chwarel erbyn diwedd y chwedegau gan fod peiriannau yn cymryd lle dynion. O’r gwaith mawr y cloddiwyd meini coffa Llywelyn ein Llyw olaf, hen ŵr Pencader ac I.D.Hooson.